Moscow
Mae o leiaf 10 o bobl wedi’u lladd a 106 wedi’u hanafu, 50 ohonyn nhw’n ddifrifol, ar ôl i drên tanddaearol ddod oddi ar y cledrau ym Moscow, yn ôl swyddogion yn Rwsia.
Roedd sawl cerbyd wedi dod oddi ar y cledrau mewn twnnel ger gorsaf Park Pobedy ar ôl i larwm achosi i’r trên stopio’n sydyn.
Yn ôl swyddogion cafodd tua 200 o bobl eu symud oddi ar y trên a oedd yn sownd rhwng dwy orsaf yng ngorllewin Moscow. Mae’n debyg bod un person yn dal yn gaeth mewn cerbyd.
Cafodd nifer o bobl oedd wedi’u hanafu’n ddifrïol eu cludo o’r safle mewn hofrenyddion i’r ysbyty.