Mae David Cameron yn ad-drefnu ei gabinet ar hyn o bryd.
Fe gyhoeddwyd bore ma mai Philip Hammond fydd yn cymryd lle William Hague fel Ysgrifennydd Tramor.
Stephen Crabb fydd yn olynu David Jones fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Mae Michael Gove wedi colli ei swydd fel yr Ysgrifennydd Addysg ac wedi ei benodi’n Brif Chwip.
Ei rôl fydd lledaenu neges y Llywodraeth mewn cyfweliadau teledu wrth i’r Prif Weinidog baratoi ar gyfer yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.
Bydd Nicky Morgan, 41, yn symud o’r Trysorlys i gymryd lle Michael Gove. Bydd hi hefyd yn parhau yn ei swydd fel y Gweinidog dros Ferched a Chydraddoldeb.
Liz Truss yw’r Ysgrifennydd Amgylchedd newydd. Bydd hi’n cymryd lle Owen Paterson a gafodd ei feirniadu am ei fethiannau gyda’r cynllun difa moch daear a’r ffordd yr oedd wedi delio gyda’r llifogydd dros y gaeaf. Liz Truss yw aelod ieuengaf y cabinet yn 38 oed.
Michael Fallon yw’r Ysgrifennydd Amddiffyn newydd.
Bydd Esther McVey yn parhau yn weinidog cyflogaeth ac anableddau ond bydd hi nawr yn mynychu’r Cabinet hefyd, meddai David Cameron.
Mae Mark Harper, a ymddiswyddodd fel gweinidog mewnfudo yn gynharach eleni ar ôl iddo gyfaddef cyflogi gweithiwr anghyfreithlon fel glanhawr, wedi cael ei benodi’n Weinidog yn yr Adran Waith a Phensiynau.
Bydd Syr Bob Kerslake yn camu o’i swydd fel pennaeth y Gwasanaeth Sifil yn yr hydref ac yn ymddeol fel ysgrifennydd parhaol yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf.
Rhagor i ddilyn…