Yn ôl astudiaeth newydd, mae plant o gefndiroedd tlawd Cymru bron ddwywaith yn fwy tebygol o farw na phlant sy’n byw mewn  ardaloedd mwy cyfoethog.

Mae’r adroddiad gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant hefyd yn dod i’r casgliad fod oedran ifanc mamau’n ffactor risg sy’n gysylltiedig â marwolaeth plant ac mai Cymru sydd a’r gyfradd uchaf ym Mhrydain o fenywod beichiog sy’n ysmygu.

Dywed yr adroddiad fod camau “cadarnhaol” ar waith i leihau’r niferoedd o farwolaethau plant ond bod “llawer mwy o waith i’w wneud o hyd i sicrhau bod ein cymdeithas yn darparu’r canlyniadau gorau posibl i’n plant a’n pobol ifanc”.

Ffigyrau

Cafodd 222 o farwolaethau plant eu cofnodi yng Nghymru yn 2011.

Rhwng 2002 a 2011, roedd 61% o’r marwolaethau ymhlith plant dan flwydd oed, 20% rhwng 12 a 17 oed, ac 19% ohonynt ymhlith plant rhwng blwydd ac 11 oed.

Er bod cyfraddau marwolaethau plant yn debyg i raddau helaeth rhwng Cymru a Lloegr, mae’r gyfradd marwolaethau ymhlith plant rhwng 15 a 19 oed yn uwch – 33 am bob 100,000 yng Nghymru o gymharu â 27 am bob 100,000 yn Lloegr.

Argymhellion

Mae’r 20 o argymhellion a geir yn yr adroddiad yn ymdrin â dau faes gweithredu allweddol i leihau marwolaethau – systemau a sefydliadau iechyd, a gofal iechyd ac iechyd y cyhoedd.

Yn eu plith, mae galw am gynllun penodol i blant sydd a chyflyrau meddygol fel asthma ac epilepsi:

“Mae’n hollol annerbyniol bod yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd y caiff plentyn ei eni iddynt yn dylanwadu cymaint ar ei obaith o oroesi.

“Mae angen grymuso plant a theuluoedd â’r wybodaeth, y sgiliau a’r adnoddau i gael y dechrau gorau mewn bywyd.

“Mae angen cymorth gwell arnom i alluogi rhieni i fabwysiadu ffyrdd iach o fyw yn ystod beichiogrwydd a babandod cynnar, rhaid i ni sicrhau bod y mannau lle mae plant yn byw, yn dysgu ac yn tyfu’n cael eu dylunio mewn modd sy’n hybu eu lles a’u diogelwch i’r eithaf.

“Dylem fod yn cymryd camau megis sicrhau bod gan bob plentyn sydd â chyflwr meddygol – er enghraifft, asthma ac epilepsi – gynllun penodol a sicrhau bod pob gweithiwr proffesiynol ym maes gofal iechyd yn gymwys ac yn hyderus yn eu gallu i adnabod plentyn sâl.”

Mae’r coleg hefyd yn datblygu ymgyrch ymwybyddiaeth “er mwyn hybu cysgu diogel, codi ymwybyddiaeth o’r risgiau posibl sy’n gysylltiedig â chysgu yn yr un gwely â phlentyn, ac ystyried anghenion ychwanegol teuluoedd sy’n fwy agored i niwed, lle gallai mwy nag un ffactor risg fod yn bresennol, e.e. rhiant yn ysmygu”.