Banc Lloegr
Mae disgwyl i lefel chwyddiant aros yn isel pan fydd ffigurau swyddogol yn cael eu cyhoeddi heddiw.
Y darogan yw y bydd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), sy’n mesur chwyddiant, wedi codi i 1.6% ym mis Mehefin ar ôl gostwng i 1.5% ym mis Mai.
Ond fe fydd yn golygu bod CPI wedi aros yn is na tharged Banc Lloegr o 2% am saith mis yn olynol.