Benjamin Netanyahu
Mae Cabinet Israel wedi derbyn cynnig yr Aifft am gadoediad i ddod a diwedd i’r ymladd gyda Hamas yn Llain Gaza.
Mae 185 o Balestiniaid wedi eu lladd ac mae nifer o bobl wedi’u hanafu ar ôl i Hamas danio rocedi at Israel.
Dywedodd llefarydd ar ran Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu bod y Cabinet wedi cwrdd y bore ma ac wedi derbyn y cynnig, a ddaeth i rym am 9 y bore ma (amser lleol).
Mae’r cynllun yn galw am ddechrau’r cadoediad o fewn 12 awr ar ôl i’r ddwy ochr dderbyn y cynnig, agor ffiniau Gaza a chynnal trafodaethau gyda Cairo o fewn dau ddiwrnod.
Ond yn fuan ar ol i Israel dderbyn y cadoediad fe gyhoeddodd Hamas na fyddai’n derbyn yr amodau. Dywedodd uwch swyddog y grwp milwriaethol Palestinaidd, Sami Abu Zuhri: “Nid yw’r cynllun yn dderbyniol.”
Fe ddechreuodd Israel gynnal cyrchoedd o’r awyr ddydd Mawrth diwethaf, gan ddweud ei bod yn ymateb i wythnosau o ymosodiadau roced gan Hamas o Lain Gaza.