William Hague
Fe fydd David Cameron yn parhau i ad-drefnu ei gabinet heddiw ac mae disgwyl iddo ddyrchafu mwy o ferched i swyddi allweddol.
Ddoe, fe glywodd Ysgrifennydd Cymru David Jones ei fod yn colli ei swydd a neithiwr fe ymddiswyddodd William Hague fel Ysgrifennydd Tramor.
Yn ôl adroddiadau, dirprwy David Jones, Stephen Crabb, AS Preseli Penfro, fydd yn ei olynu.
Dywedodd David Jones ar Twitter neithiwr: “Mae wedi bod yn fraint cael gwasanaethu fel yr Ysgrifennydd Gwladol ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i gefnogi’r Llywodraeth.
“A diolch yn fawr hefyd i’r swyddogion arbennig yn Swyddfa Cymru.”
Ychwanegodd yn Gymraeg: “Diolch o galon i chi gyd.”
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond olynu William Hague, a fydd yn dod yn Arweinydd Ty’r Cyffredin cyn iddo roi’r gorau i fod yn Aelod Seneddol y flwyddyn nesaf.
Fe fydd William Hague yn cymryd lle Andrew Lansley fel Arweinydd Ty’r Cyffredin ac mae dyfodol y cyn ysgrifennydd iechyd yn edrych yn ansicr.
Mae Ken Clarke, 74, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol ynghyd a’r brif chwip Syr George Young, 72.
Y disgwyl yw y bydd David Cameron hefyd yn cyhoeddi bod yr Ysgrifennydd Amgylchedd Owen Paterson a’r Twrne Cyffredinol Dominic Grieve yn colli eu swyddi.
Yn ôl adroddiadau mae’r Prif Weinidog hefyd wedi diswyddo pennaeth y gwasanaeth sifil Syr Bob Kerslake.
Mae ffynonellau yn y Llywodraeth wedi wfftio honiadau y gallai’r Canghellor George Osborne symud i’r Swyddfa Dramor, gan fynnu ei fod am ganolbwyntio ar adfywio’r economi.
Ymhlith y merched sy’n debygol o gael eu dyrchafu mae’r gweinidog cyflogaeth Esther McVey, y gweinidog addysg Liz Truss a’r cynorthwyydd gweinidogol Penny Mordaunt.
Mae’r Prif Weinidog wedi ymateb i feirniadaeth bod gormod o ddynion yn ei gabinet.