Mewn llys yn Israel, mae tri dyn wedi cyfaddef herwgipio a lladd bachgen 16 oed, wnaeth arwain at ddyddiau o brotestio treisgar yn ardal Jerwsalem.
Dywedodd llefarydd ar ran heddlu’r wlad fod y tri dyn wedi cyfaddef gorfodi Mohammed Abu Khdeir, 16, i gefn car a rhoi ei gorff ar dân mewn coedwig.
Roedd Palestina wedi cyhuddo eithafwyr yn Israel o gipio a lladd y bachgen er mwyn dial am farwolaeth tri llanc Israelaidd.
Mae tri pherson arall yn y ddalfa wrth i’r heddlu barhau i ymchwilio i’r digwyddiad.