Enda Kenny, Prif Weinidog Iwerddon
Mae Arlywydd a Phrif Weinidog Iwerddon wedi bod yn arwain teyrngedau mewn seremoni arbennig yn Nulyn i goffáu’r Gwyddelod a gafodd eu lladd mewn rhyfeloedd.
Mae’r rheini sy’n cael eu coffáu yn cynnwys 49,000 o filwyr a fu’n ymladd dros Brydain yn y Rhyfel Mawr, a rhai a fu farw wrth wasanaethu’r Cenhedloedd Unedig.
“Mae’n briodol ein bod ni yma heddiw yn cofio’r holl ddynion a merched hynny o Iwerddon a fu farw mewn rhyfeloedd neu wrth wasanaethu gyda’r Cenhedloedd Unedig,” meddai’r Prif Weinidog Enda Kenny.
“Eleni, yn enwedig, rydym yn cofio pawb o’r rheini a fu farw yn y Rhyfel Mawr.”
Er bod llywodraeth Iwerddon wedi aros yn niwtral yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe wnaeth miloedd o’i milwyr gefnu ar fyddin y wlad i ymladd gyda Phrydain yn erbyn y Natsïaid.
Roedd y milwyr hynny wedi cael eu trin fel baw gan lywodraeth Iwerddon ar ôl dychwelyd, a ddwy flynedd yn ôl, fel wnaeth gyhoeddi ymddiheuriad swyddogol am y gamdriniaeth.