(Llun: PA)
Bydd cymdeithas adeiladu newydd yn cael ei lansio yfory, ac mae’n addo’i gwneud hi’n haws i brynwyr tro cyntaf gael morgeisi.
Bydd The Family Building Society yn rhoi cyfle i deuluoedd cyfain helpu ei gilydd gyda morgeisi. Bydd rheini neu berthnasau eraill y sawl sy’n cael morgais yn gallu buddsoddi eu cynilion mewn cyfrifon cadw cysylltiedig â’r morgais, a fydd yn gweithredu fel gwarant ar gyfer y benthyciad. Os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny, gall y perthnasau beidio â derbyn llog, gan drosglwyddo’r fantais i’r prynwyr a fydd yn cael talu llogau is.
Dyma’r tro cyntaf ers 30 mlynedd i gymdeithas adeiladu newydd gael ei lansio.
Bydd y gymdeithas yn gweithredu o Epsom yn swydd Surrey.