Un o'r gorymdeithiau yn Belffast ddoe (Llun:Brian Lawless/PA Wire)
Mae’r heddlu ac arweinwyr gwleidyddol wedi canmol gweriniaethwyr ac unoliaethwyr am gorymdeithiau heddychlon yng Ngogledd Iwerddon ddoe.
Yn sgil ymdrechion gan y ddwy ochr llwyddwyd i osgoi helyntion yn ystod y gorymdeithiau blynyddol sy’n cyrraedd uchafbwynt ar 12 Gorffennaf.
Bu miloedd o aelodau’r Urddau Oren yn dathlu buddugoliaeth y Brenin Protestannaidd William of Orange dros y Brenin Catholig Iago II ym Mrwydr y Boyne yn 1690.
Roedd cyfyngiadau wedi cael eu gosod ar un o’r gorymdeithiau yng ngogledd Belffast er mwyn osgoi cymdogaethau gweriniaethol.
Meddai Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Theresa Villiers:
“Mae’r Urdd Oren ac arweinwyr unoliaethol yn haeddu clod am y gwaith caled maen nhw wedi’i wneud i sicrhau heddwch. Mae arweinwyr y cenedlaetholwyr hefyd wedi chwarae eu rhan wrth weithio’n galed i dawelu tensiynau lleol.
“Mae’r Prif Gwnstabl a Heddlu Gogledd Iwerddon wedi bod yn broffesiynol iawn wrth gadw pobl yn ddiogel.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n adeiladu ar hyn, a bydd y Llywodraeth yn dal i wneud popeth a allwn i annog ffordd ymlaen.”