Y ffrae ar Twitter
Dywed y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod wedi synnu at ymateb Trenau Arriva Cymru i sylw ganddo nad oedd cyhoeddiadau Cymraeg yng ngorsaf Stryd y Frenhines, Caerdydd, ddoe.
Roedd wedi trydar fore ddoe yn gofyn a oedd y ffin wedi symud, ond yr ymateb a gafodd gan rywun o’r enw Anton ar ran Arriva oedd:
“There has been no border moving that I have been made aware of, but I apologise if the English announcements upset you.”
Atebodd Carwyn Jones yn ôl yn dweud nad oedd hwn yn ateb addas gan ofyn lle’r oedd y cyhoeddiadau Cymraeg. Dywed y byddai wedi disgwyl ymddiheuriad syml ac addewid i ymchwilio i’r peth, ond bod yr ateb a gafodd yn gwbl amhroffesiynol.
Ar ben hyn, cafodd ei gyhuddo o fod yn ‘naïf’ gan drydarwr arall, Rupert Evelyn, gohebydd ‘Cymru a Gorllewin Lloegr’ ITV, sylw a gythruddodd golygydd gwleidyddol BBC Cymru, Vaughan Roderick, i ofyn beth sy’n naïf ynghylch siaradwr Cymraeg yn cwyno am wasanaeth gwael.
“Mae’n bwysig fod Arriva’n ymdrin yn iawn â hyn fel y gall Anton druan ddysgu a symud ymlaen,” meddai Carwyn Jones.