Archesgob Caergaint, y Parchedicaf Justin Welby
Dywed Archesgob Caergaint ei fod yn disgwyl y bydd ymchwiliad y Llywodraeth i gam-drin plant gan bobl mewn uchel-swyddi cyhoeddus yn datgelu camweddau a ddigwyddodd yn Eglwys Loegr.
Mae’r Parchedicaf Justin Welby yn cydnabod nad oedd yr Eglwys wedi cymryd y camau a ddylai yn erbyn clerigwyr a oedd yn cam-drin plant dros y blynyddoedd.
Rhaid sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr a rhaid i’r Eglwys fod yn gwbl dryloyw bob cam o’r ffordd, meddai.
“Mae’n dod yn gliriach bob dydd bod pethau drwg wedi digwydd ym mron pob sefydliad yn y wlad,” meddai.
Mae sylwadau’r Archesgob yn dilyn honiadau bod y Farwnes Butler-Sloss, sy’n gyfrifol am ymchwiliad y llywodraeth, wedi gwrthod datgelu hanes pedoffil o esgob yn y gorffennol.
Er bod y farwnes yn gwadu hynny, cynyddu mae’r feirniadaeth ohoni nad yw’n berson addas i arwain yr ymchwiliad.