Mae Israel wedi defnyddio milwyr traed am y tro cyntaf i ymosod ar safle lansio rocedi ar lain Gaza yn Palesteina.

Gan anwybyddu apeliadau rhyngwladol am gadoediad, mae Israel wedi ehangu ei chyrchoedd bomio hefyd i gynnwys sefydliadau anfilwrol yr amheuir bod ganddynt gysylltiadau milwrol.

Mae o leiaf 156 o Balesteiniaid wedi cael eu lladd yn y cyrchoedd dros y pum diwrnod diwethaf, gan gynnwys dau glaf mewn canolfan i bobl anabl.

Roedd Israel wedi cyhoeddi ddoe y byddai’n taro Gaza ‘gyda grym nerthol’ er mwyn rhwystro ymosodiadau rocedi.

Yn ystod yr wythnos mae Israel wedi cyflawni mwy na 1,200 o ymosodiadau o’r awyr er mwyn ceisio gwanhau gallu Hamas  i danio rocedi tuag ati. Dywed Hamas eu bod nhw wedi tanio dros 700 o rocedi at Israel ac na fyddan nhw’n rhoi’r gorau iddi hyd tra bydd Israel yn dal i ymosod.