Senedd yr Alban
Ddiwrnod ar ôl cyhoeddi arolwg barn a oedd yn dangos y gefnogaeth uchaf erioed i annibyniaeth i’r Alban, mae arolwg arall heddiw’n rhoi darlun cwbl wahanol.
Mae’r arolwg yma, gan ICM ar gyfer papur newydd Scotland on Sunday, yn dangos y gefnogaeth wedi disgyn 2 bwynt canran dros y mis diwethaf.
Mae’n dangos y ganran sy’n bwriadu pleidleisio o blaid annibyniaeth i lawr i 34% a’r ganran sydd yn erbyn wedi codi i 45%. O anwybyddu’r rhai nad ydyn nhw wedi penderfynu, mae’n awgrymu buddugoliaeth o 57% i 43% i’r ochr ‘Na’ – ac mae eu mantais 2 bwynt canran i fyny ar y mis diwethaf.
“Dyw hyn ddim yn newyddion da i’r ochr ‘Ie’,” meddai’r Athro John Curtice o Brifysgol Ystrad Clud. “Yn ôl y rhan fwyaf o dystiolaeth arolygon gan gynnwys hwn, maen nhw wedi aros yn eu hunfan dros y tri mis diwethaf.
“Mae’n amlwg fod rhaid iddyn nhw wneud cynnydd pellach. A’r cwestiwn mae rhywun yn ei ofyn yn barhaus yw – beth maen nhw am ei wneud i newid pethau?”
Mae’r arolwg yn awgrymu hefyd fod addewid y pleidiau ‘Prydeinig’ am fwy o bwerau i’r Alban wedi cryfhau eu brwydr, gan fod cyfran uwch o’r bobl yn credu y bydd pleidlais ‘Na’ yn arwain at ddatganoli pellach.