Dyfodol gwleidyddol ynysoedd Prydain ar ôl refferendwm yr Alban fydd pwnc trafod cynhadledd arbennig yr wythnos yma.
Ddydd Mercher, fe fydd grŵp seneddol newydd ar Ddiwygio a Datganoli yn y Deyrnas Unedig yn cynnal ei gyfarfod cyntaf, gyda chynrychiolwyr o wahanol bleidiau a gwledydd o Brydain yn cymryd rhan.
Yn cynrychioli Cymru yn y cyfarfod fe fydd Paul Silk, o’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, a’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Suzy Davies.
Hwn fydd y digwyddiad cyntaf o gyfres o ddigwyddiadau tebyg i geisio datblygu arbenigedd wrth annog trafodaethau manwl ar y ffordd y caiff Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban eu llywodraethu yn y dyfodol.
“Teimlwn fod y ddadl bresennol ar ddyfodol cyfansoddiadol Prydain yn aml yn dameidiog a phlwyfol, yn canolbwyntio’n rhy gul naill ai ar ddatganoli grym i genhedloedd penodol neu i ddinasoedd a rhanbarthau,” meddai un o gadeiryddion y grŵp newydd, yr Arglwydd Foulkes.
“Ein gobaith drwy’r grŵp amlbleidiol yw dod â’r elfennau hyn at ei gilydd fel y gallwn ni o’r diwedd ystyried ateb ystyrlon i’n system anghytbwys a gor-ganoledig o lywodraethu.”
‘Datblygiad cadarnhaol iawn’
Wrth groesawu sefydlu’r grŵp, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a chadeirydd ‘DG Undeb Sy’n Newid’, prosiect sy’n chwilio am atebion ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Prydain:
“Mae lansio’r grŵp newydd yma’n ddatblygiad cadarnhaol iawn. Er bod trafodaethau bywiog am ddyfodol cenhedloedd unigol Prydain, maen nhw’n tueddu i ddigwydd ar wahân i’w gilydd.
“Un o nodau allweddol ein prosiect ni yw hwyluso mwy o drafodaethau cydgysylltiedig ar yr undeb sy’n newid, ac mi fydd y grŵp amlbleidiol yma’n rhoi fforwm sydd ag angen mawr amdano ar gyfer y mathau hyn o drafodaethau rhwng seneddwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.”