Amgueddfa Syr Henry Jones, Llangernyw (o wefan Cyngor Sir Conwy)
Mae diwrnod o ddigwyddiadau yn Llangernyw heddiw i dathlu 80 mlynedd ers sefydlu amgueddfa sy’n coffáu dyn o’r pentref a ddaeth yn un o athronwyr enwocaf Cymru.
Ganed Henry Jones yn 1852, yn fab i’r crydd lleol, a daeth i fod yn Athro Athroniaeth Foesol ym Mhrifysgol Glasgow, gan wneud cyfraniad pwysig i addysg yng Nghymru yn ystod ei oes.
Cafodd Amgueddfa Syr Henry Jones ei sefydlu yn y Cwm, ei gartref genedigol, yn 1934, i goffau ei fywyd a’r hyn a gyflawnodd. Bryd hynny daeth tyrfa o dros 3,000 yno i weld cyfaill agos i Henry Jones, David Lloyd George yn agor yr amgueddfa’n swyddogol.
Heddiw, 80 mlynedd yn ddiweddarach, fe fydd gor-nai y cyn-brif weinidog, Philip George, yn ailagor yr amgueddfa’n swyddogol ar ôl gwelliannau iddi, a bydd dangosiad ffilm o ddrama gerdd, ‘Harri’r Cwm’, a gafodd ei chynhyrchu rai blynyddoedd yn ôl, yn cael ei dangos yng Nghanolfan Bro Cernyw heno.
Mae heddiw’n ddiwrnod arbennig iawn i un o drigolion hynaf yr ardal, John Hughes, sy’n 90 oed, gan iddo gael ei eni yn Y Cwm, ac yn cofio’n dda y diwrnod y daeth Lloyd George i agor yr arddangosfa.
“Cofiaf y diwrnod yn glir, gwelais Lloyd George yn cerdded i fyny’r llwybr tuag at yr Amgueddfa,” meddai. “Tra roedd Lloyd George yn annerch y gynulleidfa, daeth telegram iddo, ac wrth ei ddarllen daeth gwên ar ei wyneb. Gwaeddodd rhywun ‘Share the joke LG’. Dywedai’r telegram fod Lloyd George wedi ennill y wobr gyntaf a’r cwpan arian am ddesgl o eirin Mair – gwsberis – mewn sioe yng Nghaint. Chwarddodd y gynulleidfa a pharhaodd Lloyd George i’w diddanu am ugain munud arall.”