Huw Edwards
Mae’r darllenwr newyddion Huw Edwards a’r cyflwynydd radio Dei Tomos wedi cael eu hanrhydeddu gan Brifysgol Bangor am eu gwasanaethau i newyddiaduriaeth a darlledu.
Yn enedigol o Langennech ger Llanelli, Huw Edwards yw prif gyflwynydd rhaglen newyddion Prydeinig y BBC yn Llundain, ac mae Dei Tomos o Nant Peris yn un o leisiau mwyaf adnabyddus Radio Cymru.
Maen nhw ymhlith 12 o bobl i dderbyn cymrodoriaethau er anrhydedd yn ystod seremonïau graddio’r brifysgol y mis yma.
Meddai is-ganghellor y coleg, yr Athro John Hughes:
“Mae Prifysgol Bangor wedi gwreiddio’n ddwfn yn ei chymuned ac rydym wrth ein boddau o gydnabod y cyfraniadau gwerthfawr a wnaed gan yr unigolion hyn yn eu gwahanol feysydd.
“Maen nhw wedi gwneud cyfraniad hanfodol i fywyd Cymru neu mae ganddyn nhw gysylltiad cryf â Phrifysgol Bangor, ac rydym yn edrych ymlaen at eu croesawu i’n seremonïau graddio.”