Gwrthryfelwyr Isis yn anelu at filwyr Irac (Llun PA)
Mae 4,000 o wirfoddolwyr wedi cael eu cludo mewn hofrenyddion i ymladd efo lluoedd llywodraeth Irac yn erbyn y gwrthryfelwyr Sunni yn ninas Ramedi sydd o fewn ychydig oriau o deithio i Bagdhad.
Mae’r gwirfoddolwyr, sydd a’r rhan fwyaf yn perthyn i’r garfan Fwsmelaidd Shi’ite, wedi ymateb i alwad gan glerigwr pwysicaf y garfan, sef yr Ayatollah Ali al-Sistani, i warchod Irac rhag y garfan Sunni sydd wedi cipio’r rhan fywaf o ogledd a gorllewin y wlad.
Ramadi yw prifddinas talaith Anbar ble mae’r mwyafrif yn perthyn i’r garfan Sunni ac mae lluoedd llywodraeth Irac wedi bod yn ymladd yn galed i’w gwarchod rhan mynd o dan reolaeth gwrthryfelwyr Isis.
Mae grŵp Isis wedi cyhoeddi sefydlu gwladwriaeth Islamaidd dan gyfraith Shariah mewn ardal eang sy’n ymestyn o Syria, ar draws y ffin i Irac.