Ardal y daeargryn (Chumwa CCA 3.0)
Mae daeargryn cryf yn mesur 6.8 ar raddfa Richter wedi taro arfordir gogleddol Japan.

Digwyddodd y tsunami chwe milltir o dan y môr oddi ar arfordir Fukushima, ble mae’r orsaf ynni niwcliar gafodd ei difrodi yn naeargryn 2011.

Roedd y daeargryn diweddaraf yn ddigon cryf i ysgwyd adeiladau yn Tokyo sydd tua 120 milltir i ffwrdd ond yn ôl heddlu Fukushima, dim ond un ddynes gafodd ei hanafu ar ôl iddi dorri ei choes wrth syrthio.

Cafodd trigolion wyth o drefi ddinistrwyd yn llwyr gan ddaeargryn a tsunami 2011 rybydd i adael eu cartrefi ond dim ond wyth modfedd oedd y tsunami ac achoswyd dim difrod o gwbl.

Doedd yna ddim difrod chwaith i orsaf Fukushima sydd mewn cyflwr diogel yn ôl Awdurdod Rheoleiddio Ynni Niwcliar Japan.