Mae llywodraeth India wedi cael ei beirniadu yn dilyn cyhoeddiad ei bod yn neilltuo 2 biliwn rupee (£19 miliwn) i godi delw haearn ac efydd sydd ddwywaith maint y Statue of Liberty.
Bydd y ddelw o gyn-arweinydd India, Vallabhbhai Patel, yn 182 metr ac yn cael ei chodi ger afon Narmada yng ngorllewin Gujarat lle bu’r Prif Weinidog Narendra Modi yn bennaeth cyn dod yn Brif Weinidog India.
Dywed gwrthwynebwyr i’r cynllun fod gan India flaenoriaethau llawer iawn pwysicach yn ystod cyfnod o ansicrwydd economaidd.
Mae eraill yn anfodlon am fod y ddelw i fod i gael ei hariannu gan gronfa llywodraeth leol a chyfraniadau trigolion y wlad yn hytrach na thrwy’r gyllideb ganolog.
Cafodd manylion cyllideb gyntaf llywodraeth Modi eu cyhoeddi’r bore ma.
Mae nifer wedi beirniadu’r llywodraeth am glustnodi mwy o arian ar gyfer y ddelw nag sydd wedi’i neilltuo ar gyfer diogelwch menywod (1.5 bn rupee/£14.6 miliwn) ac addysg i ferched (1 biliwn rupee/£9.6 miliwn).
Ymhlith y meysydd eraill sy’n cael sylw yn y gyllideb mae gweithgynhyrchu ac isadeiledd, yn ogystal ag ymestyn trethi.
Mae’r gyllideb yn cael ei hystyried yn ffon fesur bwysig o lwyddiant y llywodraeth newydd i wyrdroi’r economi.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid Arun Jaitley fod y gyllideb yn symud i ffwrdd oddi wrth “boblogrwydd a gwariant gwastraffus”.