Horatio Chapple
Mae crwner yng nghwest bachgen 17 oed gafodd ei ladd gan arth yn yr Arctig wedi dweud bod yr anifail yn hen ac o dan straen pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Dywedodd dirprwy grwner Swydd Wiltshire a Swindon fod archwiliad post-mortem o’r anifail wedi dangos bod dannedd yr arth mewn cyflwr gwael ac y byddai hynny wedi achosi iddo droi’n ymosodol.

Roedd Horatio Chapple o Salisbury ar wyliau gyda Chymdeithas Teithiau Ymchwil Ysgolion Prydain pan fu farw yn 2011.

Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Eton.

Roedd e’n cysgu mewn pabell pan ymosododd yr arth arno gan achosi anafiadau difrifol i’w ben a rhan uchaf ei gorff.

Cafodd pedwar arall eu hanafu yn y digwyddiad cyn i’r arth gael ei saethu’n farw yn y gwersyll.

Roedd yr arth yn 24 oed, yn ôl amcangyfrifon, er nad yw’r anifeiliaid yn dueddol o fyw am fwy nag 20 o flynyddoedd.