Ysbyty Llwynhelyg
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu dyfarniad yr Uchel Lys i wrthod her gyfreithiol gan ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu newidiadau i ysbytai Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Dywedodd yr Ustus Hickingbottom nad oedd sail gyfreithiol i wrthwynebu newidiadau’r bwrdd iechyd.
Maen nhw’n cynnwys symud uned gofal arbennig i fabanod o Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin a newid y gwasanaeth argyfwng yn Llanelli gan olygu mai nyrsys fydd yn arwain yr uned- fel rhan o gynllun i ad-drefnu’r gwasanaethau iechyd.
Cafodd sawl protest eu cynnal yn ystod y misoedd diwethaf i wrthwynebu’r newidiadau gydag ymgyrchwyr yn dweud y gallai godi’r risg i gleifion.
Ond yn ei ddyfarniad dywedodd yr Ustus Hickingbottom, er nad yw’n amau fod ymgyrchwyr yn ddiffuant yn eu honiad, fod y newidiadau yn gyfreithlon.
Mae un o’r ymgyrchwyr yn Llwynhelyg wedi dweud wrth y BBC eu bod yn ystyried mynd a’r frwydr at Lys Iawnderau Dynol Ewrop.