Un o'r teirw yng ngŵyl San Fermin
Cafodd dau o bobol eu hanafu yn ystod ras teirw yng Ngŵyl San Fermin yn ninas Pamplona yn Sbaen ddoe.
Cafodd y tarw ei wahanu o weddill y pac tua diwedd y ras wrth i chwech o anifeiliaid frwydro yn erbyn ei gilydd o flaen y dorf.
Dywedodd llefarydd ar ran y Groes Goch yn Sbaen fod un person wedi cael anafiadau i’w frest a bod rhywun arall wedi cael anafiadau i’w goes.
Cafodd nifer o bobol eraill eu trin am fân anafiadau.
Mae 15 o bobol wedi marw yn ystod digwyddiadau o’r fath yn Sbaen ers i gofnodion ddechrau yn 1924.
Daeth Gŵyl San Fermin yn fyd-enwog yn sgil nofel Ernest Hemingway, ‘The Sun Also Rises’, ac mae miloedd o dramorwyr yn teithio i’r ardal ar gyfer yr ŵyl bob blwyddyn.