Mae pennaeth elusen yr NSPCC wedi dweud y dylai methu ag adrodd am drosedd ryw fod yn drosedd ynddi’i hun.
Mae Prif Weithredwr yr elusen, Peter Wanless yn arwain ymchwiliad i ymdriniaeth y Swyddfa Gartref o honiadau o droseddau rhyw.
Mae’n dweud y dylai fod yn anghyfreithlon i fethu ag adrodd am drosedd ryw er mwyn amddiffyn enw da sefydliad.
Dywedodd wrth y BBC fod methu ag adrodd am drosedd yn “rhoi enw da’r sefydliad uwchben diogelwch y plentyn hwnnw”.
Mae Cymdeithas Genedlaethol Pobl a gafodd eu Cam-drin yn Blant wedi cefnogi’r alwad.
Dywedodd y Prif Weithredwr Peter Saunders: “Rwy’n credu bod hwn yn dro pedol arwyddocaol iawn i’r NSPCC ac yn un i’w groesawu’n fawr – mae’n gam mawr yn y cyfeiriad cywir.”
Yn gynharach eleni, dywedodd yr NSPCC nad oedden nhw’n cefnogi ei gwneud yn orfodol i adrodd am droseddau rhyw.
Ond maen nhw’n dweud y dylai’r gyfraith roi mwy o sylw i bobol sydd mewn swyddi neu safleoedd cyfrifol ac sydd wedi methu a gweithredu.
‘Ennyd arwyddocaol’
Mae cyfreithiwr sy’n gweithredu ar ran 176 o bobol sydd wedi gwneud cyhuddiadau yn erbyn Jimmy Savile wedi croesawu ymateb yr NSPCC.
Dywedodd y gyfreithwraig Liz Dux o gwmni Slater & Gordon fod yr ymateb yn “ennyd arwyddocaol yn ein brwydr i amddiffyn plant y dyfodol yn erbyn ysglyfaethwyr fel Savile, Harris, Smith a Hall.”
Ychwanegodd y dylai’r gyfraith ymestyn i sefydliadau preifat yn ogystal â rhai cyhoeddus.