Carwyn Jones
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwestiynu didwylledd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn dilyn y cyhoeddiad ddoe fod £700,000 yn cael ei dorri oddi ar gyllideb Cymraeg i Oedolion.
Wrth esbonio’r penderfyniad wrth y canolfannau Cymraeg i Oedolion ledled Cymru, dywedodd Llywodraeth Cymru mai oherwydd “nad oes cyllid ychwanegol ar gael i gefnogi gweithrediad y Strategaeth Iaith” y gwnaethon nhw’r penderfyniad.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cyhoeddiad blaenorol Carwyn Jones fod £1.6 miliwn wedi cael ei glustnodi ar gyfer y Gymraeg mewn datganiad polisi fis diwethaf.
Roedd toriadau o 8% eisoes wedi’u cyhoeddi.
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Robin Farrar: “Pan gyhoeddodd Carwyn Jones ei fuddsoddiad honedig yn y Gymraeg fis diwethaf, mi geisiodd o adael yr argraff y byddai yna arian ychwanegol sylweddol.
“Er gwaetha’r holl sbin, mae’n debyg nad ydy’r Gymraeg yn ddigon o flaenoriaeth i’r Llywodraeth.
“Mae’r toriadau yma’n codi cwestiynau am ddidwylledd y Prif Weinidog.”
Tegwch ariannol
Er gwaethaf addewid gan Carwyn Jones ddechrau’r flwyddyn ddiwethaf y byddai’n asesu effaith holl wariant Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg, dydy’r asesiad ddim wedi cael ei gwblhau eto, meddai’r mudiad.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, dangosodd cais rhyddid gwybodaeth fod gwariant Llywodraeth Cymru’n llai na £400,000 o gyllideb o £17 miliwn ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am “degwch ariannol”.
Ychwanegodd Robin Farrar: “Yr hyn sydd ei angen yw tegwch ariannol i’r Gymraeg.
“Nid yw Cymdeithas yr Iaith yn derbyn bod angen toriadau – ond hyd yn oed yng nghyd-destun mesurau llymder, mae toriadau o’r math yma’n annheg, gan gofio bod gwariant ar hyrwyddo’r Gymraeg yn llai na 0.15% o gyllideb y Llywodraeth.
“Rydyn ni wedi galw am asesiad o effaith iaith gwariant pob adran o’r Llywodraeth, fel bod modd sicrhau bod buddsoddiad sylweddol a theg yn yr iaith.
“Addawodd y Prif Weinidog hynny dros 16 mis yn ôl, ond ’dan ni heb glywed dim ers hynny.
“Er bod pobl eisiau byw yn Gymraeg, mae’r ewyllys gwleidyddol sydd ei angen er mwyn gwireddu dyhead pobl Cymru ar goll.”