Mae undeb y TUC yn honni fod athrawon, gweithwyr iechyd, diffoddwyr tân, a gweision sifil wedi colli £2,245 mewn termau real oherwydd diffyg codiad cyflog ers pedair blynedd gan Lywodraeth Prydain.

Daw’r cyhoeddiad, ddiwrnod cyn i ddwy filiwn o weithwyr y sector cyhoeddus fynd ar streic dros amodau tâl a phwysau gwaith.

Dyma fydd y streic fwyaf ers i’r Llywodraeth Glymblaid bresennol gael ei hethol, ac mae bwriad gan weithiwyr i gynnal streiciau eraill yn ystod y flwyddyn os nad yw eu gofynion yn cael eu hateb.

Gyda mwy na 450,000 o weithwyr llywodraeth leol yn ennill llai na’r cyflog byw, mae’r ymgyrchwyr yn anhapus nad ydyn nhw wedi cael codiad cyflog digonol am y pedair blynedd ddiwethaf, er bod arwyddion fod yr economi yn gwella.

‘Wedi cael digon’

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC, Frances O’Grady: “Mewn llywodraeth leol, ac ar draws y sector cyhoeddus, mae gweithwyr yn credu nad ydy gweinidogion yn poeni amdanyn nhw nac yn deall y straen sydd ar eu costau byw.

“Yn y cyfamser, mae’r Llywodraeth yn fodlon i’r pwrs cyhoeddus golli allan ar biliynau o bunnoedd trwy doriadau treth incwm i bobol gyfoethog a busnesau mawr. Ond mae’n dweud nad oes arian i roi codiad cyflog o werth i weithwyr y sector cyhoeddus.

“Dyw hi ddim wedi bod yn ddewis hawdd i weithwyr golli diwrnod o waith yr wythnos yma ond mae gweithwyr wedi cael digon. Mae hi’n amser i weinidogion ddechrau gwrando a sylweddoli na fydd hi’n bosib cadw caead ar y sector cyhoeddus am byth.”