Alun Davies
Mae Alun Davies wedi ymddiheuro wrth weision sifil am ofyn iddyn nhw ddatgelu gwybodaeth ariannol breifat am Aelodau Cynulliad y gwrthbleidiau.

Cafodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ei ddiswyddo o Lywodraeth Cymru gan y Prif Weinidog ddoe.

Mae’r wybodaeth y gofynnodd Alun Davies amdani’n ymwneud â thaliadau CAP.

Mae’r nawdd yn cael ei roi gan Ewrop i’r diwydiant amaeth.

Roedd wedi gofyn am fanylion am daliadau gan arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, a’r ACau Antoinette Sandbach, William Powell a Llyr Gruffydd.

Hyd yn hyn, dydy e ddim wedi ymddiheuro wrth y pump.

‘Amhriodol’ ac  ‘annerbyniol’

Roedd y gwrthbleidiau eisoes wedi galw am ei ddiswyddo wedi iddo dorri’r Cod Gweinidogol drwy ymyrryd ym mhroses gynllunio trac rasio Blaenau Gwent yn ei etholaeth.

Ymddiheurodd bryd hynny ac fe gafodd ei amddiffyn gan Carwyn Jones.

Ond wrth gyhoeddi ei fod wedi diswyddo Alun Davies, dywedodd Carwyn Jones fod y cais am wybodaeth yn “amhriodol” a bod y ffaith ei fod e wedi gwneud y cais yn “annerbyniol”.

Dywedodd mewn datganiad: “Yn y dyddiau diwethaf mae negeseuon rhwng y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd a gweision sifil yn ei adran wedi dod i fy sylw.

“Mae’r e-byst yn dangos fod y Gweinidog wedi gofyn i weision sifil roi gwybodaeth breifat am ddiddordebau ariannol nifer o Aelodau’r Siambr hwn.

“Mae’r rhain yn ymwneud â thaliadau CAP sydd wedi’u gwneud i’r unigolion hyn.”

Siom

Ychwanegodd: “Rwyf yn credu fod yr ymholiadau yma yn anaddas ac mae’r ffaith eu bod wedi cael eu gwneud o gwbl yn annerbyniol i mi fel Prif Weinidog.

“O ganlyniad i hynny, rwyf wedi gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd adael y Llywodraeth.

“Fe wnes i’r penderfyniad yma â mawr siom a hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad i’r cyfraniad y mae Alun Davies, heb os, wedi’i wneud i waith y llywodraeth yn ystod ei gyfnod yn y swydd.”

Edwina Hart fydd â chyfrifoldeb tros Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ac mi fydd hi’n parhau â’i chyfrifoldebau presennol hefyd.

Bydd Rebecca Evans yn ei chynorthwyo, tra bydd John Griffiths yn gyfrifol am bolisi amaethyddol.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd economi Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth fod y mater yn codi cwestiynau ehangach am hygrededd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf BBC Cymru eu bod nhw “wedi anghofio pam eu bod nhw yna ac i bwy maen nhw’n gweithio”.

Ychwanegodd fod hygrededd y Prif Weinidog Carwyn Jones hefyd wedi’i gwestiynu.