Y Farwnes Butler-Sloss
Mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â phenodiad y cyn farnwr yn yr Uchel Lys i oruchwylio ymchwiliad y Llywodraeth i honiadau o gam-drin plant yn San Steffan.
Fe fydd y Farwnes Butler-Sloss yn arwain yr ymchwiliad eang i honiadau bod gwybodaeth am wleidyddion ac unigolion blaenllaw eraill rhwng y 70au a’r 90au wedi cael ei chelu.
Ond mae cadeirydd y Pwyllgor Materion Cartref Keith Vaz wedi mynegi ei syndod ynglŷn â’r penodiad, gan fod y Farwnes yn aelod o Dy’r Arglwyddi. Dywedodd llefarydd ar ran David Cameron mai ei “phrofiad helaeth” oedd y rheswm pam ei bod wedi cael ei phenodi.
Yn y cyfamser mae prif was sifil y Swyddfa Gartref wedi cyfaddef ei fod yn “bryderus” bod mwy na 100 o ffeiliau, sy’n gysylltiedig â gweithredoedd honedig gan bedoffiliaid yn San Steffan, wedi mynd ar goll.
Bu Mark Sedwill yn cael ei holi gan ASau ddoe.
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi comisiynu dau ymchwiliad – un a fydd yn cael ei arwain gan y Farwnes Butler-Sloss, a fydd yn canolbwyntio ar honiadau o gam-drin a ddigwyddodd mewn sefydliadau a chyrff cyhoeddus fel y BBC, pleidiau gwleidyddol ac eglwysi. Bydd yr ail ymchwiliad yn cael ei arwain gan bennaeth yr NSPCC, Peter Wanless, i bryderon fod y Swyddfa Gartref wedi methu a delio hefo honiadau hanesyddol o gam-drin plant.