Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn torri cyllideb Canolfannau Cymraeg i Oedolion (CiO) o 7% pellach ar gyfer blwyddyn 2014/15.

Ym mis Ionawr, cafodd y sefydliad wybod fod Llywodraeth Cymru yn torri’r gyllideb ar draws y sector o 8%, ac mewn llythyr at Ganolfannau Cymraeg i Oedolion, mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn cwtogi’r gyllideb ymhellach o 7%.

Mae’r llythyr yn cyfaddef fod y toriad yn un “heriol iawn” i’r ganolfan.

‘Annisgwyl’

Mewn ymateb, dywedodd cyfarwyddwr un o’r canolfannau fod y toriad pellach yn un “cwbl annisgwyl a dirybudd” sydd wedi dod ar amser “anffodus iawn a dweud y lleiaf”. Dywedodd hefyd fod y ganolfan yn bwriadu cymryd camau i wrthwynebu’r toriad.

Cefnogi sefydliadau eraill yw diben y toriadau, yn ôl Llywodraeth Cymru:

“Yn dilyn Cyfrifiad 2011 a’r gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, mae angen i Lywodraeth Cymru i gymryd camau i gynyddu defnydd yr iaith.

“Rydym yn cydnabod bod gan faes CiO gyfraniad pwysig i’w wneud i’r agenda hon, ond mae hefyd angen i ni gefnogi sefydliadau eraill.

“Gan nad oes cyllid ychwanegol ar gael i gefnogi gweithrediad y Strategaeth Iaith, mae’r penderfyniad anodd i ail-flaenoriaethu wedi cael ei wneud.”

Bydd swyddogion o Lywodraeth Cymru yn cwrdd â chyfarwyddwyr y chwe Chanolfan Cymraeg i Oedolion ar 15 Gorffennaf i “ganfod effaith bosibl y setliad hwn, lliniaru’r effaith lle bo hynny’n bosibl, a phenderfynu ar y blaenoriaethau a’r ffordd ymlaen ar gyfer y sector.”