Llys y Goron Casnewydd
Mae Llys y Goron Casnewydd wedi clywed sut yr oedd dyn 33 oed o Gaerffili wedi lladd babi chwe wythnos oed drwy ei daro gydag esgid a photel blastig.
Bu farw Alfie Sullock, o ardal y Tyllgoed yng Nghaerdydd, ym mis Awst 2013, ar ôl iddo gael ei warchod gan gariad ei fam, Michael John Pearce. Dyma’r tro cyntaf iddo gael ei adael ar ei ben ei hun gyda’r babi.
Clywodd y llys sut yr oedd y diffynnydd wedi anfon neges destun at fam Alfie, Donna Sullock, i ddweud fod popeth yn iawn – bedwar munud cyn iddo wneud galwad 999 am ambiwlans.
Ar ôl i barafeddygon gyrraedd y tŷ yn Nelson, roedd y babi bach yn llonydd, gyda chleisiau i’w wyneb a’i frest . Yn ôl adroddiadau meddygol, roedd wedi dioddef o waedlif yn ei ymennydd.
Wrth ddechrau’r achos ar ran yr erlyniad dywedodd Michael Mather-Lees QC : “Doedd hyn ddim yn ddigwyddiad lle bu farw’r babi yn sydyn, cafodd y plentyn yma ei guro droeon nes iddo farw.”
Mae Michael Pearce yn gwadu dau gyhuddiad o ddynladdiad a llofruddio Alfie Sullock.
Mae disgwyl i’r achos barhau am dair wythnos.