Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi ymateb i adroddiad ar wasanaethau cyhoeddus drwy ddweud bod ei raglen ddiwygio uchelgeisiol yn mynd ymhell y tu hwnt i uno awdurdodau lleol.
Wrth gyflwyno ei ymateb yn y Senedd, dywedodd y Prif Weinidog fod y Comisiwn Williams wedi gwneud gwaith “difrifol, awdurdodol a gwrthrychol” wrth ddangos yr angen am newid gan bwysleisio nad oes modd parhau â’r sefyllfa sydd ohoni.
Dywedodd Carwyn Jones fod agenda diwygio gwasanaethau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar “wella gwasanaethau i bawb yng Nghymru.”
Yn ôl y Prif Weinidog mae’n rhaglen “ddiwygio bellgyrhaeddol ac uchelgeisiol sy’n cwmpasu’r sector cyhoeddus cyfan.”
‘Gweithredu fel un gwasanaeth cyhoeddus’
Dywedodd Carwyn Jones: “Mae’n hagenda ar gyfer diwygio yn amlinellu newid integredig llwyr fel y gallwn weithio a gweithredu fel un gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys cynigion ar gyfer datblygu cydwasanaethau a gwella gwasanaethau digidol.
“Rydym wedi mynegi ein hawydd i ddatblygu arweinyddiaeth gryfach mewn gwasanaethau lleol, lleihau cymhlethdod, cryfhau rheoli perfformiad, annog arloesi a chodi uchelgeisiau ar draws pob sefydliad gwasanaeth cyhoeddus.”
Dywedodd y Prif Weinidog hefyd fod dadl gref dros ddiwygio llywodraeth leol o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei gorfodi i ymyrryd i amddiffyn gwasanaethau nifer o gynghorau dros y blynyddoedd diwethaf.
‘Uno yn gwella gwasanaethau lleol’
Argymhelliad y Comisiwn oedd y dylid haneru nifer y cynghorau yng Nghymru o 22 i rhwng 10 a 12 er mwyn eu gwneud yn fwy effeithlon a’u gwneud yn gadarn yn ariannol.
Dywedodd y Prif Weinidog: “Bydd uno awdurdodau lleol yn amddiffyn ac yn gwella gwasanaethau lleol.
“Byddant yn galluogi sefydliadau i ymateb i’r heriau cynyddol y maent yn eu hwynebu.
“Mae gormod o ymyrryd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf, lle bu’n rhaid cymryd camau pendant er mwyn diogelu gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gyda rhai awdurdodau lleol bach. All hyn ddim parhau.”
Ychwanegodd y Prif Weinidog ei bod yn bryd meithrin perthynas newydd rhwng y bobl sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethu a’r rheini sy’n elwa arnyn nhw, gyda “chyfraniad llawer mwy gan ddefnyddwyr gwasanaethau mewn cynllunio a darparu.”
Ychwanegodd: “Mae’r mesurau hyn oll yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni er mwyn Cymru, ac amddiffyn a gwella ein gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau eu bod yn gynaliadwy ac yn addas at y dyfodol.”