Y merched a gafodd eu cipio gan Boko Haram ym mis Ebrill
Mae mwy na 60 o ferched a menywod a gafodd eu cipio bythefnos yn ôl gan eithafwyr Islamaidd yn Nigeria wedi llwyddo i ddianc.

Er hynny, mae mwy na 200 o ferched a gafodd eu herwgipio ym mis Ebrill yn dal yn gaeth.

Roedd lluoedd diogelwch Nigeria wedi gwadu adroddiadau bod y grŵp terfysgol Boko Haram wedi herwgipio merched o dri phentref ar 22 Mehefin.

Ond mae’n debyg bod 63 o fenywod a merched wedi llwyddo i ddianc ddydd Gwener tra bod eu carcharwyr yn cymryd rhan mewn ymosodiad ar farics milwrol a phencadlys yr heddlu yn nhref Damboa.

Mae eithafwyr Boko Haram wedi bod yn gwrthryfela am bum mlynedd yng ngogledd Nigeria, gan  fynnu sefydlu gwladwriaeth Islamaidd.

Daeth y grŵp i sylw rhyngwladol ym mis Ebrill ar ôl herwgipio mwy na 200 o ferched o ysgol yn Chibok yn nhalaith ogleddol Borno.