Theresa May
Fe fydd prif was sifil y Swyddfa Gartref yn cael ei holi gan Aelodau Seneddol heddiw ynglŷn â’r ffordd yr oedd yr adran wedi delio gyda honiadau o gam-drin plant dros gyfnod o 20 mlynedd.
Bydd yr Ysgrifennydd Parhaol Mark Sedwill yn mynd gerbron y pwyllgor dethol ar faterion cartref i ateb cwestiynau ynglŷn â’r adolygiad a gafodd ei gomisiynu ganddo’r llynedd.
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi gofyn i brif weithredwr yr elusen NSPCC Peter Wanless ymchwilio i’r adolygiad a’r ffordd yr oedd wedi delio gyda honiadau ac ymateb yr heddlu ac erlynwyr i wybodaeth a gafodd ei drosglwyddo iddyn nhw.
Roedd Theresa May wedi cyhoeddi manylion ynglŷn â’r adolygiad yn y Senedd ddoe ynghyd ag ymchwiliad annibynnol eang i’r modd yr oedd sefydliadau a chyrff cyhoeddus, fel y BBC, eglwysi a phleidiau gwleidyddol, wedi delio gyda honiadau o gam-drin plant.
Bydd yr ymchwiliad yn cael mynediad at holl bapurau’r Llywodraeth y mae’n gwneud cais amdanyn nhw ac fe allai droi’n ymchwiliad cyhoeddus os yw’r cadeirydd yn teimlo bod hynny’n angenrheidiol.
Mae’n annhebyg y bydd adroddiad yr ymchwiliad yn barod cyn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf ond mae Theresa May wedi dweud y bydd yn rhoi diweddariad i’r Senedd cyn mis Mai 2015.
Mae disgwyl i Peter Wanless gyhoeddi adroddiad am ei adolygiad o fewn wyth i 10 wythnos a bydd yn ystyried pryderon bod y Swyddfa Gartref wedi methu a gweithredu ynglŷn â honiadau o gamdrin plant a gafodd eu cyflwyno mewn ffeil i’r Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Leon Brittan gan y cyn AS Ceidwadol Geoffrey Dickens ym 1983.
Roedd yr ymchwiliad y llynedd wedi darganfod bod 114 o ffeiliau wedi mynd ar goll ond nad oedd tystiolaeth i awgrymu bod y ffeiliau wedi cael eu symud neu eu difrodi mewn modd “amhriodol”.