Atomfa Wylfa, Ynys Mon
Mae cwmni Magnox wedi cadarnhau bod adweithydd yn atomfa’r Wylfa ar Ynys Môn wedi gorfod rhoi’r gorau i gynhyrchu trydan am fod stêm yn gollwng ohono.
Daw hyn wythnos ar ôl i’r adweithydd ail-ddechrau cynhyrchu trydan yn dilyn pum mis o waith cynnal a chadw. Fe arweiniodd broblemau eraill at oedi pellach ar ddau achlysur.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Magnox: “Does neb wedi eu hanafu, does dim ymbelydredd wedi cael ei ryddhau a does dim risg i’r staff, i’r cyhoedd na’r amgylchedd.
“Mae adweithydd rhif 1 wedi ei ddiffodd ac mae’r stêm wedi cael ei ryddhau yn ddiogel i’r amgylchedd.”
Fe fydd yr atomfa, sydd wedi bod ar agor ers 1971, yn cau yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac mae cwmni Horizon yn bwriadu adeiladu gorsaf niwclear newydd ar y safle.