Matthew Rhys gyda Nerys Evans, chwith, a Leanne Wood
Mae Plaid Cymru wedi croesawu’r actor byd-enwog Matthew Rhys fel aelod newydd o’r blaid.

Yn y Senedd heddiw, cafodd yr actor o Gaerdydd ei groesawu gan arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood a’r cyn-Aelod Cynulliad a chyfarwyddwraig polisi Plaid Cymru, Nerys Evans.

Dywedodd Leanne Wood: “Mae’n wych fod Matthew Rhys wedi penderfynu ymuno a Phlaid Cymru.  Mae’n llysgennad ardderchog dros Gymru ac yr wyf yn falch o allu ei groesawu i’r blaid.

“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i adeiladu Cymru fwy llwyddiannus, ac y mae ein gweledigaeth gadarnhaol yn ennill mwy a mwy o gefnogaeth.

“Gydag uchelgais, gwaith caled a chefnogaeth gyson ein haelodau, bydd Plaid Cymru yn gweithio i adeiladu Cymru well i’r dyfodol.”