Ysgrifennydd Cartref, Theresa May
Fe fydd y Llywodraeth yn sefydlu ymchwiliad annibynnol dan oruchwyliaeth panel o arbenigwyr i’r modd yr oedd cyrff cyhoeddus wedi delio gyda honiadau o gam-drin plant.

Wrth wneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May,  y gallai’r ymchwiliad gael ei uwchraddio i ymchwiliad cyhoeddus llawn os yw’r panel yn dweud bod angen gwneud hynny.

Dywedodd wrth ASau mai pennaeth yr NSPCC, Peter Wanless, fydd yn gyfrifol am adolygu’r modd yr oedd y Swyddfa Gartref wedi delio gyda honiadau hanesyddol o gam-drin plant.

Fe fydd yr adolygiad gan Peter Wanless yn cymryd wyth i 10 wythnos i’w gwblhau.

Mae disgwyl i’r adolygiad edrych ar ymchwiliad y Swyddfa Gartref ond hefyd sut yr oedd yr heddlu ac erlynwyr wedi delio gyda’r wybodaeth gafodd ei drosglwyddo iddyn nhw.

Bydd yn canolbwyntio ar bryderon bod y Swyddfa Gartref wedi methu a gweithredu ar wybodaeth ynglŷn â honiadau o gam-drin plant a gafodd ei chyflwyno i’r adran yn yr 1980au gan y cyn AS Geoff Dickens.

‘Tryloyw’

Dywedodd Theresa May: “Rwyf eisiau delio gyda dau fater pwysig sydd wedi achosi pryder ymhlith y cyhoedd: yn gyntaf bod y Swyddfa Gartref wedi methu a gweithredu ynglŷn â honiadau o gam-drin plant, a’r ail yw bod cyrff cyhoeddus a sefydliadau pwysig eraill wedi methu a chymryd eu dyletswyddau i ofalu am blant a’u diogelu o ddifrif.”

Dywedodd y byddai’r Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal ac y byddai’n “hollol dryloyw.”

Mae’r galw am ymchwiliad llawn wedi dwysau dros y penwythnos ar ôl i’r Arglwydd Tebbit ddweud y gallai’r honiadau fod wedi cael eu celu yn yr 80au er mwyn diogelu’r “system”.

Mae’r ymchwiliad mwy eang i gyrff cyhoeddus yn dilyn honiadau hanesyddol o gamdrin yn erbyn Jimmy Savile a’r dyfarniad yn erbyn y diddanwr Rolf Harris.

Fe fydd yr ymchwiliad yn dechrau mor fuan â phosib meddai ar ôl i gadeirydd gael ei benodi ac aelodau eraill y panel.