Oscar Pistorius
Mae cyfreithwyr ar ran yr amddiffyniad  yn yr achos llofruddiaeth yn erbyn Oscar Pistorius yn bwriadu crynhoi’r achos ar ôl i’w tyst olaf roi  tystiolaeth heddiw.

Bydd y dystiolaeth gan feddyg sydd wedi  trin yr athletwr yn arwain at doriad yn yr achos wrth i’r amddiffyniad a’r erlyniad baratoi eu dadleuon cloi.

Mae Oscar Pistorius, 27, wedi cyfaddef saethu ei gariad Reeva Steenkamp, 29, ond mae’n gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth gan ddweud ei fod yn credu bod lleidr yn ei gartref pan saethodd at ddrws yr ystafell ymolchi ym mis Chwefror y llynedd.

Mae Pistorius yn wynebu 25 mlynedd yn y carchar os yw’n ei gael yn euog.