Eduard Shevardnadze, yn cwrdd a Margaret Thatcher yn 1986
Mae Eduard Shevardnadze, cyn weinidog tramor yr Undeb Sofietaidd a chyn Arlywydd Georgia, wedi marw yn 86 oed.

Dywedodd ei lefarydd, Marina Davitashvili, ei fod wedi marw ar ôl salwch hir.

Fel gweinidog tramor yr Undeb Sofietaidd, Shevardnadze oedd wyneb diplomyddol Mikhail Gorbachev a oedd yn gyfrifol am bolisïau Rhyddfrydol fel  glasnost a perestroika.

Fe wnaeth Eduard Shevardnadze argraff ar arweinwyr y gorllewin gyda’i garisma, ffraethineb a’i ymrwymiad i bolisïau Gorbachev.

Helpodd dynnu’r milwyr Sofietaidd o Afghanistan yn 1989, llofnododd gytundebau rheoli arfau hanesyddol a bu’n helpu i drafod ailuno’r Almaen yn 1990.

Ond yn yr hen Undeb Sofietaidd, mae’r rhai sy’n hiraethu am y dyddiau a fu yn gweld ei weithredoedd a Mikhail Gorbachev yn anfaddeuol.

Yn dod o Georgia’n wreiddiol, fe wnaeth ddychwelyd i’r wlad wedi i’r Arlywydd etholedig cyntaf, Zviad Gamsakhurdia, gael ei ddisodli mewn gwrthryfel yn 1992.

Cafodd Eduard Shevardnadze ei ethol yn llefarydd y senedd a daeth yn arweinydd y wlad yn 1995.

Goroesodd dau ymgais i’w lofruddio ac er iddo ddilyn polisïau o blaid y gorllewin, cafodd ei arweinyddiaeth ei ddifetha gan lygredd a dirywiad democratiaeth.

Ym mis Tachwedd 2003, bu protestiadau enfawr ar ôl honiadau o dwyll mewn etholiad seneddol. Yn fuan wedyn, cafodd Eduard Shevardnadze ei ddisodli.

Dywedodd Mikhail Gorbachev ei fod wedi gwneud cyfraniad mawr i bolisi materion tramor yr Undeb Sofietaidd.