Cofeb Hyde Park, Llundain
Mae cofeb i gofio’r rhai fu farw yn ystod y bomio yn Llundain ar 7 Gorffennaf 2005 wedi cael ei fandaleiddio, oriau cyn i deuluoedd y dioddefwyr gynnal seremoni yno.
Roedd negeseuon gan gynnwys “4 Mwslim Dieuog” a “Miloedd yn marw oherwydd celwyddau Blair” wedi cael eu sgwennu ar y gofeb yn Hyde Park dros nos.
Dywedodd llefarydd ar ran y Parciau Brenhinol fod y sloganau wedi cael eu tynnu oddi yno erbyn y seremoni.
“Rydym ni, wrth gwrs, wedi ein siomi,” ychwanegodd.
Mae’r gofeb ddur yn cofio am y 52 o bobol fu farw yn yr ymosodiad terfysgol gan bedwar hunan fomwyr ar system drafnidiaeth Llundain yn 2005.
Mae wedi costio £1 miliwn i’w adeiladu ac yn cynrychioli’r pedwar lleoliad lle bu farw’r dioddefwyr – Sgwâr Tavistock, Ffordd Edgware, King’s Cross ac Aldgate.