Mae’r heddlu sy’n chwilio am ddyn aeth ar goll o westy yn Llanelli’n dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff.

Roedd Richard Thomas Chandler, 25, yn dod o Kettering, Northants, ond roedd wedi bod yn gweithio fel contractiwr yn ardal Trostre yn Llanelli dros y tair wythnos diwethaf.

Cafodd ei weld ddiwethaf gan gyd-weithwyr iddo am 11yh nos Iau.

Roedd wedi bod yn aros yng Ngwesty Miramar yn Llanelli yn ystod yr wythnos ac yn teithio nôl i Kettering ar y penwythnosau.