Fe fydd £90 miliwn yn cael ei wario ar wella mynediad i wasanaeth diwifr ar drenau Cymru a Lloegr.

Mae disgwyl i’r gwasanaeth diwifr fod ddeg gwaith yn gyflymach na beth ydy o ar hyn o bryd ac fe fydd ar gael i deithwyr ymhen tua thair blynedd.

Bydd rhan o’r prosiect yn cael ei ariannu gan y ddirwy o £53 miliwn sy’n rhaid i Network Rail ei dalu, ar ôl methu a chyrraedd targedau prydlondeb y llynedd.

Ond mae undeb gweithwyr trên yr RMT wedi dweud y dylai’r arian gael ei wario ar wella cyflwr y rheilffyrdd cyn  uwchraddio’r gwasanaeth diwifr.

‘Barus’

“Mae dirwy Network Rail am fod yn mynd yn syth i bocedi’r cwmnïau trên barus i ariannu gwasanaeth diwifr ar eu trenau,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y RMT, Mick Cash.

“Fe fydd diogelwch a dibynadwyedd trenau yn dod yn ail oherwydd hyn. Mae’n dric gan y Llywodraeth sydd hefyd yn gam gwag i’r cyhoedd sy’n defnyddio’r trenau.”

Ond yn ôl yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Patrick McLoughlin, mae teithwyr yn haeddu’r gwasanaeth diwifr o’r radd flaenaf:

“Rydym ni gyd yn gwybod pa mor ddiflas yw gorfod torri ein sgyrsiau ffôn neu ein defnydd o’r rhyngrwyd ar ei hanner oherwydd diffyg signal wrth deithio.

“Mae’n digwydd yn rhy aml. Ond mae teithwyr yn disgwyl ac yn haeddu gwell, a dyma beth fydden nhw’n ei gael.”