Mae dros 85% o bobl a bleidleisiodd ym mhôl piniwn golwg360 yn credu na ddylai myfyrwyr o Gymru sydd yn penderfynu astudio yn Lloegr ddisgwyl yr un gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd 42% nad oedden nhw’n credu y dylai unrhyw gefnogaeth ariannol o gwbl gael ei chynnig i’r myfyrwyr hynny, gyda 44% yn cytuno cyn belled â bod eithriadau i’r rheol.

Dim ond 11% oedd o blaid cadw’r drefn bresennol, ble mae Llywodraeth Cymru’n cynnig grant o hyd at £5,500 i bob myfyriwr o Gymru sydd yn mynd i’r brifysgol, ble bynnag maen nhw’n astudio ym Mhrydain.

Mae’r drefn bresennol yn golygu mai dim ond £3,685 sydd yn rhaid i Gymry dalu mewn ffioedd dysgu bob blwyddyn, o’i gymharu â’r £9,000 sydd yn rhaid i fyfyrwyr o Loegr dalu.

Yr wythnos diwethaf fe ysgrifennodd Guto Davies flog yn amddiffyn y drefn bresennol, gan ddweud ei fod yn sicrhau nad yw myfyrwyr o Gymru’n cael eu cyfyngu yn eu dewis o brifysgol.

Mewn ymateb i hynny, cafwyd blog gan Osian Elias yn dadlau ei bod hi’n bryd newid y system gyllido, fyddai’n golygu bod Llywodraeth Cymru’n arbed miliynau all gael ei wario i wella prifysgolion Cymru.

Mae’r drafodaeth dros ddyfodol ariannu addysg uwch yng Nghymru’n debygol o fod yn un o bynciau llosg addysg pan mae’n dod at etholiadau’r Cynulliad yn 2016.

Ar hyn o bryd mae’r Llywodraeth Lafur wedi ymrwymo i gadw’r polisi presennol tan o leiaf yr etholiad hwnnw, ond mae’r awgrym eisoes wedi dod gan rai ymysg y gwrthbleidiau ei bod yn bryd ailfeddwl hynny.

Dadansoddiad Iolo Cheung

Mae modd edrych ar y canlyniadau yma mewn dwy ffordd, a hynny oherwydd ein bod ni wedi cynnwys yr opsiwn ‘Na ddylen, gydag eithriadau’ i’r cwestiwn ‘A ddylai myfyrwyr gael grantiau i astudio y tu allan i Gymru?’

Yn gyntaf, mae’r farn ymysg darllenwyr golwg360 bron yn unfrydol fod angen newid y system bresennol, gyda chyfanswm o dros 85% yn dewis opsiynau sy’n dweud na ddylai myfyrwyr sydd yn gadael i astudio yn Lloegr gael eu trin yn yr un modd.

Mae rhai o’r prif ddadleuon dros hyn yn cynnwys y ffaith y byddai hyn yn arbed cannoedd o filiynau i Lywodraeth Cymru, arian allai gael ei fuddsoddi ym mhrifysgolion Cymru er mwyn sicrhau bod cyrsiau cystal i gael yma.

Ond yn ail, rhaid nodi mai’r opsiwn mwyaf poblogaidd (o drwch blewyn) oedd bod eithriadau’n cael eu cynnwys mewn unrhyw newid polisi.

Os ychwanegwch chi’r 11% sydd ddim eisiau newid o gwbl, mae hyn yn golygu bod dros hanner y rheiny a bleidleisiodd dal yn credu dylai rhai myfyrwyr o Gymru barhau i dderbyn grantiau i astudio yn Lloegr.

Ymysg y myfyrwyr ddylai gael eu heithrio, yn ôl rhai – hynny yw, ddylai barhau i gael grant hyd yn oed os ydyn nhw’n mynd i Loegr – mae’r rheiny sydd wedi cael cynnig lle ar gyrsiau’r prifysgolion gorau, megis Caergrawnt a Rhydychen, neu ar gwrs nodedig mewn prifysgol arall.

Yn ogystal â hyn gallai myfyrwyr sydd eisiau astudio cwrs sydd ddim ar gael yn un o brifysgolion Cymru gael eu heithrio.

Mae’n ymddangos o’r pôl hwn, felly, fod pobl yn awyddus i weld newid ond bod mwyafrif hefyd eisio sicrhau fod gan Gymry gyfle i astudio cyrsiau da y tu hwnt i Glawdd Offa os yw’r cyfle’n codi heb gael eu cosbi’n ariannol.

Fodd bynnag, petai polisi ag eithriadau’n cael ei gyflwyno fe fyddai hynny’n creu problemau ychwanegol – sut fyddwch chi’n diffinio ‘cwrs da’ o’i gymharu â chwrs tebyg sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru? Faint yn well sydd yn rhaid iddo fod?

Byddai hefyd yn her ceisio diffinio beth sydd yn cyfri fel cwrs ‘sydd ddim ar gael yng Nghymru’.

Fel mae unrhyw un sydd wedi edrych ar gyrsiau prifysgol yn ddiweddar yn gwybod, gall cyrsiau sydd yn rhannu’r un enw fod yn astudio pethau hollol wahanol – ac yn yr un modd, gall cyrsiau sydd â theitlau gwahanol fod yn astudio mwy neu lai’r un peth.

Digon i bleidiau gwleidyddol Cymru gnoi cil drosti, felly, wrth iddyn nhw feddwl am eu polisïau addysg ar gyfer maniffestos 2016.

Canlyniadau

A ddylai myfyrwyr gael grantiau i astudio y tu allan i Gymru?

Dylen – 10.96%

Na ddylen, gydag eithriadau – 43.84%

Na ddylen – 42.47%

Ddim yn siŵr – 2.74%