Mae Israel wedi ymosod o’r awyr ar 10 o safleoedd ar lain Gaza yn gynnar heddiw wrth i’r drwgdeimlad rhwng Iddewon ac Arabiaid ddal i waethygu.

Mae’r ymosodiadau’n dilyn gwrthdaro rhwng yr heddlu a phrotestwyr yn Jerusalem a threfi Arabaidd yng gogledd Israel dros y dyddiau diwethaf.

Dywed Israel iddyn nhw dargedu safleoedd milwrol gwrthryfelwyr ar ôl i 29 o rocedi gael eu tanio o lain Gaza at Israel yn ystod y penwythnos yma.

Roedd dwy o’r rocedi hyn wedi eu hanelu at Beersheba, dinas sydd ymhellach i mewn i Israel nag unrhyw le arall sydd wedi dioddef ymosodiad o’r fath.

Mae tensiynau rhwng y ddwy ochr wedi bod yn uchel ers i dri Israeliad ifanc gael eu herwgipio a’u llofruddio ar 12 Mehefin, a llanc Palesteinaidd o ddwyrain Jerusalem gael ei gipio a’i losgi mewn coedwig yr wythnos ddiwethaf.