Mae un o weinidogion llywodraeth lafur James Callaghan yn yr 1970au wedi datgan ei gefnogaeth i annibyniaeth i’r Alban.
Mae Leslie Huckfield yn galw ar gefnogwyr Llafur yn yr Alban i bleidleisio o blaid annibyniaeth yn y refferendwm ar 18 Medi.
Dywed y byddai Alban annibynnol yn rhoi cyfle i weithredu’r polisïau a’r achosion y mae’r Blaid Lafur wedi eu cefnogi’n draddodiadol.
Cafodd Leslie Huckfiel ei ethol yn Aelod Seneddol Nuneaton a Bedworth yn Lloegr yn 1967, a bu’n is-ysgrifennydd gwladol dros ddiwydiant rhwng 1976 ac 1979.
Mae bellach yn byw yn Auchterader yn Swydd Perth.
Neges y cyn-weinidog
“Pan symudais i’r Alban yn 2004 fe ddaeth yn amlwg fod hon yn wlad sy’n teimlo’n angerddol dros gyfiawnder cymdeithasol,” meddai.
“Mae’r agenda yn Lloegr yn cynrychioli dinistrio llawer o egwyddorion a pholisïau y mae’r Albanwyr yn eu harddel yn gryf.
“Hoffwn gefnogi’r ymgyrch Ie mewn unrhyw ffordd y gallan, yn enwedig gan nad ydw i’n credu bod llawer o bobl yn yr Alban yn deall nac yn adnabod yn ddigonol yr agenda gwleidyddol sy’n datblygu yn Lloegr.
“Mae’n bryder i mi nad yw Miliband a Llafur Newydd yn cynnig dim gwahanol. Yn fyr, dw i’n credu bod Alban annibynnol yn gyfle nid yn unig i ymryddhau oddiwrth y Torïaid ond hefyd oddi wrth agenda Llafur Newydd.”
Mae Leslie Huckfield yn aelod gweithgar o’r undeb Unite, ond gadawodd y Blaid Lafur dros 10 mlynedd yn ôl mewn protest yn erbyn rhyfel Irac.