Mae mwy na 100 o ffeiliau swyddogol sy’n ymwneud â honiadau hanesyddol o gam-drin plant gan wleidyddion a ffigurau cyhoeddus eraill wedi mynd ar goll.

Fe ddaeth hyn i’r amlwg wrth i’r Prif Weinidog David Cameron ofyn i brif was sifil y Swyddfa Gartref, Mark Sedwill, ddarganfod beth a ddigwyddodd i ffeil a gafodd ei chyflwyno i’r Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Leon Brittan, yn 1983.

Roedd y ffeil honno, a gafodd ei chyflwyno gan yr Aelod Seneddol Torïaidd Geoffrey Dickens yn cynnwys honiadau am gylchoedd o bedoffiliaid yn San Steffan yn yr 1980au.

Mewn llythyr at gadeirydd Pwyllgor Materion Cartref y senedd, fodd bynnag, dywed Mark Sedwill, fod 114 o ddogfennau allan o 527 a allai fod yn berthnasol  naill ai wedi cael eu dinistrio neu ar goll.

Roedd y dogfennau sydd ar goll yn ymwneud â chyfnod o 20 mlynedd rhwng 1979 ac 1999.

Ymysg y rhai sydd ar goll mae pob un o’r rheini sy’n cynnwys honiadau penodol gan Geoffrey Dickens am ffigurau cyhoeddus amlwg yn cam-drin plant yn rhywiol.