Oscar Pistorius
Mae arbenigwyr iechyd meddwl wedi dod i’r casgliad nad oedd Oscar Pistorius yn dioddef o salwch meddwl pan saethodd ei gariad Reeva Steenkamp yn farw.

Cafodd yr achos llys yn erbyn yr athletwr paralympaidd ei ohirio am fis wrth i arbenigwyr asesu ei gyflwr meddyliol, wedi i’r amddiffyniad honni fod anhwylder pryder wedi cyfrannu ato’n saethu Reeva Steenkamp.

Ond wrth i’r achos ail gychwyn yn Ne Affrica heddiw, fe glywodd y llys fod arbenigwyr yn credu fod yr athletwr yn “medru deall fod y weithred yn anghywir”.

Mae Pistorius wedi cyfaddef saethu’r fodel 29 oed ond mae’n gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth gan ddweud ei fod yn credu bod lleidr yn ei gartref pan saethodd at ddrws yr ystafell ymolchi.

Mae Pistorius yn wynebu 25 mlynedd yn y carchar os yw’n ei gael yn euog.