Andy Coulson
Fe fydd ail achos yn cael ei gynnal yn erbyn Andy Coulson ynglŷn â chyhuddiadau ei fod wedi llwgrwobrwyo swyddogion pan oedd yn olygydd y News of the World.

Wythnos diwethaf cafodd y rheithgor eu rhyddhau o’u dyletswyddau ar ôl methu a chyrraedd dyfarniad ynglŷn â chyhuddiadau bod Coulson, 46, a chyn olygydd brenhinol y News of the World, Clive Goodman, 56, wedi cynllwynio i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus drwy dalu swyddogion yr heddlu am rifau ffôn y teulu brenhinol.

Ond heddiw fe gyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron y bydd ail achos yn cael ei gynnal.

Mae Coulson, o Charing, Caint eisoes yn wynebu cyfnod yn  y carchar ar ôl i reithgor yn yr Old Bailey ei gael yn euog o gynllwynio i hacio ffonau pan oedd yn gweithio gyda News of the World rhwng 2000 a 2006.

Roedd Goodman, o Addlestone, Surrey wedi pledio’n euog i gyhuddiad o hacio ffonau yn 2006 ond ni fydd yn wynebu rhagor o gamau cyfreithiol ynglyn a hynny.

Yn ymuno a Coulson yn y llys roedd y ditectif preifat Glenn Mulcaire a phedwar o gyn newyddiadurwyr y News of the World sydd wedi cyfaddef, cyn i’r achos ddechrau, eu bod wedi hacio ffonau.

Mae disgwyl iddyn nhw gael eu dedfrydu ddydd Gwener.