Mae bachgen chwe blwydd oed mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty, wedi iddo gael ei saethu yn ei wddw.

Mae adroddiadau cynta’n awgrymu fod y bachgen wedi cael ei anafu wedi i ddynion wthio drws ty’n agored yn ardal Ballyfermot yn Nulyn neithiwr, cyn saethu i mewn i’r lobi.

Mae heddlu’r Garda yn dweud fod y bachgen wedi’i gludo ar frys i’r ysbyty. Dyw ei fywyd ddim mewn peryg.

“Fe ddigwyddodd y saethu toc wedi 10 o’r gloch y nos, ac fe ddioddefodd bachgen chwe blwydd oed anaf i’w wddw o ganlyniad i gael ei saethu,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Pan gyrhaeddodd swyddogion Garda, fe fuon nhw’n rhoi cymorth cyntaf i’r bachgen, tan y cyrhaeddodd yr ambiwlans.”

Mae’r ardal wedi’i chau i ffwrdd gan heddlu tra maen nhw’n ymchwilio.