Mae 49 o bobol wedi marw wedi i gefnogwyr Rwsia saethu i’r ddaear awyren o’r Wcrain.

Roedd naw aelod o’r criw a 40 o deithwyr ar fwrdd yr awyren Il-76 pan gwympodd i’r ddaear yn gynnar fore heddiw. Roedd bron a chyrraedd maes awyr Lugansk.

Mae swyddfa’r erlynydd yn y wlad wedi cadarnhau fod ymchwiliad troseddol ar y gweill, a bod hwnnw wedi’i sefydlu dan gyfreithiau gwrth-derfysgaeth.

Mae gan jet Il-76 bedair injan, ac mae’n cael ei defnyddio’n aml i symud offer trwm a phobol.