Mae arlywydd Iran wedi dweud fod ei wlad yn fodlon helpu Irac i drechu terfysgaeth – pan, ac os y bydd, Irac yn gofyn am gymorth.
Mae Hassan Rouhani wedi dweud mewn cynhadledd i’r wasg fod yna gysylltiad rhwng y gwrthryfelwyr Sunni sydd wedi meddiannu dinasoedd yng ngogledd Irac yr wythnos hon, a’r gwleidyddion a gollodd yr etholiadau seneddol ym mis Ebrill.
Mae Iran wedi bod yn codi pontydd rhwng Irac, yn wleidyddol ac yn economaidd, wedi’r rhyfel yno.
Yr wythnos hon, fe fu’n rhaid i lywodraeth Tehran roi’r gorau i hedfan awyrennau i Baghdad oherwydd pryderon diogelwch. Mae Iran hefyd yn wyliadwrus ar bob cam o’r ffin rhwng y ddwy wlad.
“Pe doi unrhyw gais am help o Irac, fe fydden ni’n ystyried y cais yn ofalus,” meddai Hassan Rouhani. “Rydyn ni’n barod i roi cymorth oddi mewn i’r gyfraith ryngwladol.”